Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Mawrth 2024
Amser:
09.31 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13793
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Darren Millar AS Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Catrin Davies, Llywodraeth Cymru Anna Hind, Llywodraeth Cymru Will Whiteley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Catherine Roberts (Dirprwy Glerc) Josh Hayman (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
Trafododd y Pwyllgor y dull craffu a chytunodd arno.
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:
- Cadarnhad a yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyngor cyfreithiol allanol ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
- Y costau i Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’r achos olaf a ystyriwyd gan y Goruchaf Lys mewn perthynas â chymhwysedd deddfwriaethol Bil Senedd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.